Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(5) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2014 Rhif (Cy. )

llywodraeth leol, cymru

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae Rhan 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn cyflwyno system o gynllunio cymunedol yng Nghymru. Mae adran 38(1) o’r Mesur yn darparu rhestr o gyrff cyhoeddus y cyfeirir atynt fel ‘partneriaid cynllunio cymunedol’ o dan Ran 2 o’r Mesur. Mae’n ofynnol i’r cyrff hyn gymryd rhan mewn gwaith cynllunio cymunedol. Mae’r rhestr hon yn cynnwys awdurdodau heddlu.

Yn unol â Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (“Deddf 2011”), cafodd awdurdodau heddlu eu diddymu a’u disodli gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu. I adlewyrchu’r newid a wnaed gan Ddeddf 2011, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn tynnu awdurdodau heddlu o’r rhestr o bartneriaid cynllunio cymunedol yn y Mesur ac yn gosod Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn eu lle.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Llywodraeth Leol a Chymunedau, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(5) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2014 Rhif (Cy. )

llywodraeth leol, cymru

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Diwygio) 2014

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)             

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 38(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009([1]).

Yn unol ag adran 50(5) o’r Mesur hwnnw, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Yn unol ag adran 38(3)(b) o’r Mesur hwnnw, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol yng Nghymru, a’r cynrychiolwyr hynny i bartneriaid cynllunio cymunedol y maent yn credu eu bod yn briodol.

Enwi  a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Diwygio) 2014.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.

Diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

2.(1)(1) Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn adran 38(1)(f) (ystyr “partneriaid cynllunio cymunedol”), yn lle “awdurdod heddlu” rhodder “comisiynydd heddlu a throseddu”.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2009 mccc 2.